Mae Barnardo’s eisiau sicrhau bod y Gwasanaethau Barnardo’s yr ydych yn eu defnyddio y fuddiol ac a oes yna unrhyw ffyrdd y gellid eu gwella. Rydym eisau i chi fod yn rhan o’r penderfyniadau a wneir am ein gwasanaeth. Gobeithiwn y gallwch ymateb os gofynnir i chi am adborth gan eich gweithiwr. Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau, boed hynny yn dda neu ddim mor dda, os ydych yn teimlo bod yna welliant y gellid ei wneud. Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu, byddwn yn ymdrin a hynny o ddifri. Dywedwch wrthym am eich pryderon fel y gallwn wneud pethau’n iawn pan fo angen i ni.
Mae proses Cwynion a Sylwadau Gwasanaethau Plant yn bodoli er mwyn eich helpu i fynegi eich pryderon, ac mae’r daflen hon yn egluro’r broses honno. Mae gennym hefyd fersiwn hirach o’r daflen hon sy’n cynnwys mwy o fanylion. Gallwch ofyn i aelod o’ch staff gwasanaeth am gopi o’r fersiwn hirach ar unrhyw adeg.
Os oes gennych bryder neu gŵyn, mae’n bwysig eich bod yn rhannu hynny gyda ni cyn gynted ag y gallwch fel y gallwn geisio datrys y mater cyn gynted â phosibl. Wedi i chi siarad â rhywun o Barnardo’s, neu wedi ysgrifennu atom, ein ffonio neu e-bostio drwy ddefnyddio un o fanylion cyswllt Barnardo’s ar y daflen hon, byddwn yn edrych ar y mater ac yn ceisio cywiro pethau, ar ôl i ni drafod a chytuno gyda chi ynghylch eich pryder neu gŵyn.
Byddwn yn ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os nad ydych yn hapus â chanlyniad yr ymchwliad i’ch cwyn, cysylltwch â Barnardo’s o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn ein hymateb ysgrifenedig a rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig pam nad ydych yn hapus a beth fyddech yn dymuno iddo ddigwydd petaem yn cynnal ymchwiliad arall. Yna byddwn yn anfon copi i chi o’r fersiwn hir o Dweud eich dweud sydd yn rhoi mwy o fanylion am y broses ymchwilio i gwynion
Os, er gwaetha ein hymdrechion, eich bod yn dal yn anfodlon, mae gennych eto 20 diwrnod gwaith i gysylltu â ni ar ôl i chi dderbyn canlyniad yr ail ymchwiliad i’ch cwyn. Mae’r fersiwn hir o Dweud eich dweud yn nodi beth fydd yn digwydd nesaf.
Efallai bod yna asiantaethau cyfrifol [1] neu statudol y gallwch gysylltu â nhw os nad ydych yn fodlon ag ymateb terfynol Barnardo’s. Mae eu manylion ar y daflen hon ynghyd â manylion am eich gwasanaeth Barnardo’s a’r Swyddfa Genedlaethol.
| Enw eich gwasanaeth Barnardo’s: | Cwnsela mewn Ysgolion ac yn y Gymuned, Bro Morgannwg | |
| Enw’r Rheolwr: | Hayley Smith | |
| Cyfeiriad y Gwasanaeth:
|
Ely Family Centre, 87a Grand Avenue, Ely, Cardiff
CF24 5TD
|
|
| Ffôn: | 02920 577074 | |
| E-bost: : | CardiffandValeLocalityAdmin@barnardos.org.uk | |
|
Barnardo’s Cymru: Canolfan Teuluoedd Elai 02920 577074 Eich Awdurdod Lleol yw Cyngor Bro Morgannwg: Swyddfeydd Dinesig 01446 700111 |
||
| Y Comisiynydd Gwybodaeth (os ydych yn pryderu am fater ynghylch Diogelu Data):
ICO 0303 123 1113 url:www.ico.org.uk |
||
Swyddfa gofrestredig: Tanners Lane, Barkingside IG6 1QG. Rhif TAW 507477337. Mae Barnardo’s yn elusen (216250 / SC037605) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. (61625 Lloegr – gweler y ddogfen lywodraethol).