Fel rhieni/gofalwyr, rydych chi eisiau’r gorau i’ch plentyn. Rydych chi’n gwneud gwaith gwych, ond weithiau dydy hynny ddim yn hawdd.

Dyma lle gall Gwasanaeth Cwnsela Barnardo’s eich helpu. Gallwn eich cefnogi i gael yr help iawn i’ch person ifanc.

Yn Barnardo’s, credwn na ddylai unrhyw unigolyn deimlo na all ei fywyd wella. Rydym yma i chi – i wrando, i ddysgu sut beth yw bywyd i chi a’ch teulu ac i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth briodol.

Beth yw cwnsela?

Mae cwnsela’n darparu lle diogel i’ch person ifanc siarad am ei fywyd, ei deimladau a’i sefyllfa bresennol. Mae’n ffynhonnell o gefnogaeth emosiynol sy’n rhoi’r gallu iddo siarad â rhywun sy’n niwtral ac yn ddiduedd. Mae’r berthynas â’r cwnselydd yn seiliedig ar ymddiriedaeth a bydd y person ifanc yn penderfynu beth y mae’n dymuno siarad amdano yn y sesiynau. Rôl y cwnselydd yw meithrin a chefnogi ei les wrth feddwl am ei ddiogelwch.

Mae cwnsela yn ofod cyfrinachol iddynt allu siarad â chwnselydd, ond mae yna dair eithriad i gyfrinachedd lwyr:

  • OS yw’r person ifanc yn wynebu risg o gael niwed
  • OS bydd rhywun y mae’r person ifanc yn ei adnabod yn wynebu risg o gael niwed
  • OS oes gan y person ifanc wybodaeth am drosedd.

Rydym yn eich sicrhau mai eu diogelwch yw ein blaenoriaeth. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi fel eu rhiant/gofalwr os bydd gennym unrhyw bryderon, ond, bydd cynnwys y sesiwn yn gyfrinachol rhwng y person ifanc a’r cwnselydd.

Mae amrywiaeth o faterion bywyd y bydd eich person ifanc yn mynd drwyddynt – gan eich bod yn gwybod eich hun bod tyfu i fyny yn gallu bod yn anodd! Mae amrywiaeth o faterion rydyn ni’n eu cefnogi, ond os nad yw’r broblem y mae’r person ifanc yn ei hwynebu ar y rhestr hon, rydyn ni’n dal i allu helpu:

  • Cam-drin domestig
  • Cam-drin
  • Troseddu
  • Bwlio
  • Gorbryder
  • Anhwylderau Bwyta
  • Academaidd
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Hunanladdiad
  • Arian
  • Iselder
  • Teulu
  • Trawsryweddol
  • Salwch
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Profedigaeth
  • Perthnasoedd
  • Hunan-niwed
  • Dicter
  • Diogelwch Ar-lein
  • Gofalu am rywun
  • Straen
  • Hunan-werth
  • Hunaniaeth

Gellir cael gafael ar gymorth yn y ffyrdd canlynol:

Person ifanc – gallwch annog person ifanc i lenwi ffurflen hunangyfeirio neu ofyn iddynt siarad â’u gweithiwr cyswllt yn yr ysgol er mwyn cael gafael ar gopi papur.

Rhiant / Gofalwr – Gallwch lenwi ffurflen atgyfeirio ar-lein ar eu rhan. Mae’n bwysig eich bod yn siarad â nhw ac yn cael eu caniatâd cyn gwneud yr atgyfeiriad.

Gweithwyr Proffesiynol – Efallai bod eich teulu yn gweithio ag asiantaeth fydd yn gallu llenwi ffurflen atgyfeirio. Bydd angen i’ch person ifanc roi eu caniatâd ar gyfer yr atgyfeiriad fydd yn cael ei wneud ar eu rhan.

Cam wrth gam - Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd eich ffurflen ar-lein wedi’i llenwi yn mynd yn syth i flwch derbyn y timau cwnsela. Bydd e-bost cadarnhau a gaiff ei greu’n awtomatig yn cael ei anfon atoch ar ôl i ni dderbyn eich atgyfeiriad.

Byddwn yn cysylltu â chi neu â’ch person ifanc o fewn 2-4 wythnos i’ch atgyfeiriad. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn.

Os ydych chi wedi gofyn i’ch person ifanc gael ei weld yn yr ysgol, yna bydd cwnselydd yn cysylltu’n ddistaw bach yn ystod oriau ysgol. Fel arfer, ni fydd neb yn cysylltu â chi. Os ydych chi wedi gofyn i’ch person ifanc gael ei weld yn y Gymuned, bydd cwnselydd yn cysylltu â chi i drefnu i chi ddod â’ch person ifanc i apwyntiad cychwynnol.

Os bydd y cwnselydd yn cyfarfod â’ch person ifanc yn yr ysgol, bydd yn cael cyfle i ddisgrifio ei sefyllfa a phenderfynu gyda’r cwnselydd sut yr hoffai symud ymlaen. Fel arfer, ni fyddwch yn cymryd rhan ar y cam hwn oni bai fod eich person ifanc yn dymuno dweud wrthych am y sefyllfa. Os bydd y cwnselydd yn cwrdd â chi a’ch person ifanc yn y Gymuned, byddwch yn cael eich gwahodd i gefnogi’r person ifanc ar ddechrau’r sesiwn ac yna bydd y cwnselydd yn annog eich person ifanc i gwblhau gweddill y sesiwn tra byddwch yn aros y tu allan i sicrhau bod y sesiwn yn gyfrinachol.

Beth mae rhieni gofalwyr yn ei ddweud am ein gwasanaeth?

Diolch yn fawr am ein helpu fel teulu i deimlo’n hapus unwaith eto, mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n bywydau bob dydd, rydym wedi cael ein mab yn ôl.

Diolch ichi am eich holl amser, yr wyf wedi gweld gwelliant aruthrol.

Swyddfa gofrestredig: Tanners Lane, Barkingside IG6 1QG. Rhif TAW 507477337. Mae Barnardo’s yn elusen (216250 / SC037605) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. (61625 Lloegr – gweler y ddogfen lywodraethol).